Telynau i’w Llogi

Angen cymorth?

Cysylltu â ni?

Pam llogi telyn

Y delyn yw offeryn traddodiadol ein hetifeddiaeth gerddorol yng Nghymru.  

Mae'n offeryn gosgeiddig a hardd ac mae plant ac oedolion fel ei gilydd yn gwirioni ar ei synau unigryw. Yn aml, caiff blant gyfle i ymddiddori yn y delyn a chael gwersi yn yr ysgol Gynradd ac Uwchraddd. Efallai y bydd rhai'n derbyn gwersi preifat. Byd rhieni cefnogol yn ysgwyddo'r gost am wersi offerynnol a gwersi canu hefyd o bosibl os yw'r plentyn yn gerddorol iawn. Efallai y bydd gan nifer o blant fynediad at delyn yr ysgol er mwyn ymarfer yn ystod amser egwyl.   

Llogi Telyn drwy'r Ysgol  

Efallai na fydd telyn mewn rhai ysgolion. Mae hyn yn cyfyngu ar fynediad y plentyn at yr offeryn y maen nhw'n awyddus i'w chwarae ac weithiau, bydd rheini cefnogol neu diwtor yn gweld yr angen ac yn mynd i'r afael a'r sefyllfa drwy awgrymu rhentu neu logi telyn. Gallwn ninnau helpu drwy sicrhau eich bod yn cael yr union delyn yr ydych ei heisiau. 

Mwy Fforddiadwy  

Rydym yn barod i annog unigolion i wella eu sgiliau heb y baich arianol o orfod prynu telyn. Rydym yn rhoi'r cynnig i chi logi telyn fel na fydd cymaint o faich arianol ar deuluoedd neu unigolion a phe bai angen prynu telyn.  

Yn amlwg, mae prynu telyn bedal neu delyn lifar yn gryn fuddsoddiad. Yn aml, bydd rhieni'n cael eu cynghori i wylio datblygiad eu plentyn yn gyntaf. Mae'n ddoeth sicrhau bod hwn yn fuddsoddiad fydd o werth i'ch plentyn. 

Dyna pam nad oes amheuaeth y dylech geisio rhentu telyn.  

Datblygu eich Sgiliau Telyn yn y Cartref  

Mae rheini ac unigolion yn cydnabod bod cael mynediad rhwydd at y delyn o gysur y cartref yn arwain at gynnydd mawr ac y bydd gwaith y disgybl yn datblygu'n gyflym. Mae cael telyn ar gyfer eich plentyn neu ar eich cyfer chi eich hun yn brofiad gwych beth bynnag fo'ch oed a'ch gallu. Mae gellau cerddorol a thechnegol cyffredinol yn gwella.  

Ein Telynau

Cyn sefydlu'r busnes, rydym wedi cynnal sawl ymholiad pwysig gydad athrawon telyn cymwys i holi beth oedd anghenion eu myfyrwyr, a hynny oherwydd ein bod am fuddsoddi mewn telynau cadarn, ysgafn a hawdd eu cynnal a'u cadw, ond heb anghofio'r donyddiaeth holl bwysig. Rydym yn fodlon gyda'r telynau Camac sydd gennym ac yn ymfalchïo yn y telynau lifar 34 tant yma, sy'n enwog am tannau ffeibr carbon cryf.  

Tannau wedi eu Gwneud gan Ddyn

Mae'r tannau yma sydd wedi eu gwneud gan ddyn yn unigryw gan mai anaml iawn y bydd angen eu newid, yn wahanol iawn i'r tannau coludd traddodiadol sy'n gallu torri o bryd i'w gilydd. Roedd ansawdd y tannau'n bwysig, ond roedd cael alaw a seinedd urddasol yn falenoriaeth hefyd. Mae gwydnwch y tannau'n sicrhau na fyddwch chi na'ch athro yn gorfod newid y tannau'n aml ac yn osgoi cost prynu tannau newydd. Rydym wedi sicrhau hefyd bod mecanwaith y lifar yn un cadarn, â chanddo gôd lliw, gan roi arwaith hanner tôn pendant. Mae'r rhain yn gyfforddus i'w defnyddio ac yn hawdd i'w haddasu.      

Gallwn logi telyn i unrhyw leoliad, a gellir trefnu i godi tâl am gasglu telyn. Ond rydym yn anog unigolion i ddod i nôl eu telyn eu hunain a manteisio ar y cyfle i gael pecyn o gyfarwyddiadau gofal am ddim i'ch helpu chi i ofalu am y delyn y byddwch yn ei llogi.    

Canllaw i Diwnio eich Telyn 

Rydym hefyd yn deall yr anhawster sy'n wynebu rhai dechreuwyr wrth orfod tiwnio telyn. Rydym yn rhoi canllawiau hawdd i blant ac oedolion sy'n dysgu ynglyn â sut i diwnio'r delyn hefyd. Mae hwn yn ymarfer gwerthfawr ac fe rannwn ein cynghorion gorau gyda chi! Rydym yn sicrhau eich bod yn deall yn iawn sut i wneud y dasg hon ac yn cynnig dull syml iawn iawn i chi wneud y tiwnio.

Mae'r telynau Gwerin Lifar 34 Tant ar gael i'w llogi, gydag yswiriant yn gynwysiedig. Mae cyflwyniad am ddim i ofal cychwynnol wedi ei gynnwys er mwyn i rieni a disgyblion fod yn gyfarwydda â 'r broses diwnio a'r drefn ddyddiol o ofalu am y delyn lifar. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn cynnig arweiniad i unigolion drwy'r broses syml hon gan sicrhau fod y delyn yn hawdd ei defnyddio ym mhob cartref.

Cyfnod y Llogi 

Rydym yn croesawu llogi am dymor byr neu dymor hir gan ein bod yn sylweddoli y gall anghenion yr unigolyn fod yn wahanol.  

Telynau'n Rhoi Boddhad i Gerddorion o Bob Oed a Gallu

Telynau - yr offeryn traddodiadol Gymreig sy'n rhan o'n hetifeddiaeth. Dyma un o'r offerynnau harddaf gyda sain fendigedig ac yn edrych yn osgeiddig. Does dim gwahaniaeth ydych chi am chwarae alawon gwerin traddodiadol, cerddoriaeth glasurol, neu jazz modern, bydd y delyn yn rhoi rhyddid i chi fynegi eich hun ac yn rhoi oriau o bleser beth bynnag fo'ch oed a'ch gallu.