Telynau i’w Llogi

Angen cymorth?

Cysylltu â ni?

Gofalu am eich Telyn

Beth bynnag fo'ch cefndir cerddorol, tasg rwydd yw gofalu am eich telyn ac fe fyddwn yn sicrhau fod y sgiliau a'r canllawiau angenrheidiol gennych chi fel y bydd y delyn yn cael ei chadw mewn cyflwr da bob amser.  

Ein nod yw sicrhau y bydd pob telyn a disgybl newydd yn gadael yn hyderus bod ganddynt yr wybodaeth angenrheidiol i gael mwynhad o'r delyn gaiff ei llogi.  

Ar Dân dros y Delyn!

Does dim yn rhoi mwy o foddhad i ni na'r fraint o roi telyn i gerddor ifanc neu i oedolyn sydd am wella eu sgiliau. Mae'r telynau yma'n nodedig am eu rhinweddau i ddechreuwyr ac maent yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd am sefyll arholiad ABRSM hyd at lefel Gradd Pedwar.